
Manylion y Llwyfan Yma
Mae’r llwyfan yma yn becyn cymorth i gyflwyno Model Profiad Bywyd i sefydliadau ac unigolion. Dull yw hwn sydd yn canolbwyntio ar ddysgu gan y bobl sydd wedi wynebu heriau amrywiol yn eu bywydau.
Sefydliadau: Cyngor, adnoddau a mewnwelediadau. Gwella’r ffordd rydych chi'n cynllunio, cyflwyno, ac yn gwerthuso eich gwasanaethau.
Unigolion: Dysgwch sut i ddefnyddio’ch profiadau i helpu eraill. Gwybodaeth am gyfleoedd swyddi a gwirfoddoli.
Mae'r pecyn cymorth yma yn rhoi arweiniad wrth rannu gwybodaeth, amlygu buddion, a chynnig cyngor ymarferol. Cefnogir gan CGGC a Llywodraeth Cymru. Sgroliwch i lawr i ddysgu mwy am brofiad bywyd a sut i ddefnyddio’r pecyn cymorth yma.

Beth yw Model Profiad Bywyd?
Nid yw profiad bywyd yn golygu un peth penodol. Mae'n ymwneud â phrofiadau pobl sydd wedi'u heffeithio gan faterion cymdeithasol penodol.
Fel model, mae’r dull 'profiad bywyd' yn golygu gweithio gyda phobl sydd wedi wynebu heriau. Mae'r rhain yn ddefnyddwyr gwasanaeth presennol neu flaenorol sydd â mewnwelediad i'ch gwaith.
Mae’r dull yma yn helpu gyda chynllunio, gwerthuso, a darparu gwasanaethau.Mae’n defnyddio technegau sydd yn ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a’ch galluogi i gyd-gynllunio gwasanaethau.
Bydd hyn yn helpu cyflwyno syniadau newydd a herio’r hen ffyrdd o feddwl. Bydd gwasanaethau yn canolbwyntio ar anghenion yr unigolion fwy.
Sgroliwch i lawr i ddysgu mwy am fanteision defnyddio Dull Profiad Bywyd.

Sut i Ddefnyddio'r Pecyn Cymorth Yma
Mae'r pecyn cymorth yma yn rhoi gwybodaeth gyflwyniadol, arferion gorau, a chyngor da i sefydliadau. Rydym yn deall bod eich gwaith a'ch gwasanaethau yn amrywio, felly byddem yn eich cyfeirio at adnoddau penodol lle bo modd.
Fel unigolyn mae'r model yma yn gadael i chi rannu eich mewnwelediadau i helpu gwella gwasanaethau. Gall eich profiadau helpu sefydliadau i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol a thosturiol. Darganfyddwch adnoddau fydd yn eich helpu i gymryd rhan a rhannu eich stori. Efallai byddech chi'n darganfod llwybr gyrfa ble gallech chi ddefnyddio'ch profiad bywyd i helpu eraill.
Ymwelwch â Unigolion

Deall eich defnyddwyr
Mae pobl gyda phrofiad bywyd yn rhannu gwir brofiadau o ddefnyddio'r gwasanaeth.
Gall sefydliadau weld pethau o safbwynt defnyddwyr.
Mae hyn yn eu helpu i ddeall anghenion eu defnyddwyr yn well.

Ymestyn allan a meithrin hyder
Mae'n anodd weithiau i gysylltu gyda phobl gallai fod angen cymorth.
Os oes gennych chi bobl ar y tîm sydd yn deall eu heriau, maen haws iddynt ymddiried ynoch.
Mae hyn yn helpu pobl i gael mynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Gwasanaethau ymatebol
Gall sefydliadau ddod yn fwy effeithiol a chanolbwyntio'n well ar y person pan fyddant yn deall heriau personol.

Tîm mwy cynhwysol
Mae cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd yn chwalu stereoteipiau ac yn creu tîm amrywiol.
Mae hyn yn o fudd i bawb!

Tystebau

"Gyda'u harweiniad a'u cymorth, cofrestrais fy nghwmni glanhau ym mis Ionawr 2019, a gyda chymorth grantiau gallais brynu cynnyrch glanhau ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Rwyf wedi bod yn weithredol ers hynny." – Bev
Darllen mwy am Bev
"Rwy'n hapus iawn gyda St Giles.
Mae'r gweithiwr achos yn gefnogol ac yn helpu bob tro. Mae'n gwrando ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl gymorth rhoddwyd i ni." – Mam Harry
Darllen mwy am Harry

Darganfod mwy

Manylion y St. Giles
Mae St Giles yn elusen sydd yn helpu pobl sydd wedi bod drwy gyfnodau anodd. Defnyddir profiad bywyd go iawn i gefnogi'r rhai sydd ei angen fwyaf.
Mae’n cynnwys problemau tlodi, llwyrddibyniaeth, iechyd meddwl, neu ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol.

Ein Dull Gweithredu: Pobl yn Helpu Pobl
Credwn mai’r bobl sydd wedi profi cyfnodau anodd sydd orau i helpu eraill.
Mae ein Rhaglen Cynghorwyr Cyfoedion yn hyfforddi pobl gyda phrofiad bywyd i ddod yn fentoriaid ac yn gynghorwyr.
Maent yn helpu i arwain eraill tuag at ddyfodol mwy disglair.

Ochr yn Ochr: Ffordd Fwy Clyfar o Helpu
Mae ein menter Ochr yn Ochr yn ffordd glyfar ac effeithiol i helpu pobl.
Rydym yn gosod pobl sydd â phrofiad bywyd wrth galon ein gwasanaethau.
Mae hyn yn creu newid cadarnhaol mewn cymunedau ledled y wlad.