

Darpariaeth Gwasanaeth
Mae llawer o sefydliadau yn recriwtio am rolau profiad bywyd gwirfoddol a gyda thâl. Y nod yw gwella gwasanaethau cymunedol rheng flaen. Mae swyddi fel Gweithwyr Cymorth Cyfoedion a Eiriolwyr Cymunedol yn dod yn fwy cyffredin.
Mae hyn yn adlewyrchu cydnabyddiaeth ehangach o bwysigrwydd profiad bywyd wrth lunio gwasanaethau effeithiol.

Manteision Rolau Cyfoed a Phrofiad Bywyd
Cymorth Unigryw: Dod ag empathi, dealltwriaeth a chefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth. Maent yn aml yn rhannu profiadau tebyg Arweiniad Mewnweledol: Deall yr heriau sydd yn wynebu defnyddwyr gwasanaeth. Maent yn gyfarwydd â'r opsiynau cymorth Meithrin hyder: Ysbrydoli drwy oresgyn brwydrau tebyg. Mae'n meithrin hyder gan arwain at ymgysylltiad gwell gyda defnyddwyr gwasanaeth sydd yn anodd eu cyrraedd

Pethau i'w Hystyried
Rolau Gwirfoddol neu Gyda Thâl: Mae goblygiadau gwahanol i'r ddau ddewis. Meddyliwch am gydymffurfiaeth Adran Gwaith a Phensiynau a'r effaith negyddol gall taliadau ei gael ar fudd-daliadau.
Canllaw defnyddiol:
– Gwirfoddoli - CGGC
– Beth yw gwirfoddoli - NCVO
– Gwirfoddoli a hawlio budd-daliadau - GOV.UK
Addasrwydd Rôl: Sicrhau bod diogelu, arferion a pholisïau wedi'u gosod. Pwrpas hyn yw diogelu gwirfoddolwyr a defnyddwyr. Mae Ymarfer ar Sail Trawma yn bwysig i osgoi gorfod mynd trwy'r trawma eto.
Recriwtio Cynhwysol: Sicrhau bod recriwtio yn hygyrch, gan ddileu rhwystrau i bobl sydd â phrofiad bywyd. Gall fod yn anodd i rai sydd â hanes o drawma cymhleth, profiad o'r system cyfiawnder troseddol, neu ddim llawer o brofiad gwaith.
Cefnogaeth a Hyfforddiant: Mae rhai angen mwy o gymorth nag eraill. Yn enwedig y rhai sydd yn trawsnewid o ddefnyddiwr gwasanaeth i ddod yn ymarferwr. Darparwch oruchwyliaeth, hyfforddiant a chymorth lles ychwanegol i feithrin eu sgiliau.
Sgroliwch i lawr i'r adran adnoddau am wybodaeth ac arweiniad pellach. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am wiriadau a datgeliadau DBS.

Rôl Darparu Gwasanaeth ar y Rheng Flaen
Gweithio’n uniongyrchol â phobl, grwpiau, neu gymunedau. Defnyddio profiadau personol i gynnig arweiniad a chymorth ymarferol.
Esiampl rolau
- Gweithiwr Cymorth Cyfoed
- Gwirfoddolwr Cyfoed
- Gweithiwr Cymorth Cymunedol
- Gweithiwr Adfer Cyfoed
- Cynorthwyydd Adfer Profiad Bywyd
- Mentor /Cynghorydd Cymheiriaid
- Hyfforddwr Lles
- Hyfforddwr/Gweithiwr Profiad Bywyd
- Hwylusydd Profiad Bywyd
Gall tasgau gynnwys: Rhannu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Helpu i lywio gwasanaethau ac adnoddau cymunedol. Cefnogi gyda thasgau dyddiol. Cymorth perthynol. Bod yn fentor neu’n fodel rôl. Ymgysylltiad cymunedol.

Rôl Profiad Bywyd/Cymorth Cyfoed Arbenigol
Defnyddio profiad bywyd i gynnig cymorth arbenigol wedi’i deilwra yn ôl anghenion y gwasanaeth a’r defnyddwyr.
Esiampl rolau
- Gweithiwr Cymorth Cyfoed Ieuenctid
- Gweithiwr Achos Plant a Theuluoedd
- Mentor Mewn Ysgolion
- Gweithiwr Ecsploetiaeth a Gangiau
- Gweithiwr Cyfoed Cyffuriau ac Alcohol
Gall tasgau gynnwys: Rhoi cyngor a chymorth yn ôl anghenion y person. Cefnogi eraill ar eu hadferiad. Cynorthwyo gwasanaethau i gysylltu a gweithio gyda’r gymuned. Helpu gyda lles cymdeithasol ac emosiynol. Cynllunio a darparu rhaglenni cymorth.

Senior Rôl Profiad Bywyd/Cymorth Cyfoed Arbenigol
Defnyddio eu profiad bywyd i reoli a darparu goruchwyliaeth, mentora a hyfforddiant i'r tîm.
Esiampl rolau:
- Uwch Weithiwr/Cydlynydd Profiad Bywyd
- Goruchwyliwr Cymorth Cyfoed
- Cynghorydd/Arweinydd Profiad Bywyd
Gall tasgau gynnwys: Anwytho a hyfforddi staff. Mynychu cyfarfodydd allanol. Goruchwylio a rheoli achosion. Datblygu adnoddau. Gwreiddio polisïau ac arferion.

Rôl Arweinyddiaeth Profiad Bywyd
Helpu i siapio a gwella gwasanaethau, strategaethau, a datblygu'r gweithlu. Defnyddio'u mewnwelediadau unigryw ar lefel strategol.
Rolau enghreifftiol:
- Rheolwr Prosiect Profiad Bywyd
- Ymgynghorydd Profiad Bywyd
- Cyfarwyddwr Profiad Bywyd
Gall tasgau gynnwys: Datblygu, rheoli a chefnogi'r gweithlu. Sicrhau bod gwasanaethau yn cyrraedd safonau a rheolau. Cydlynu a datblygu gwasanaethau. Cynghori ar welliannau i wasanaethau. Datblygu strategaethau a phrosesau.

Rôl Eiriolwr a Chynrychiolydd Profiadau Bywyd
Mwyhau a chynrychioli llais defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau. Sicrhau bod profiadau bywyd wrth galon gwneud penderfyniadau a datblygu gwasanaethau.
Esiampl rolau
- Eiriolwr Cymunedol
- Cynrychiolydd Defnyddwyr Gwasanaeth
- Llysgennad Profiad Bywyd
Gall tasgau gynnwys: Hwyluso cyfarfodydd a grwpiau ffocws i gasglu adborth. Sicrhau bod llais y defnyddwyr yn cael ei glywed wrth gynllunio a gwerthuso gwasanaethau. Siarad yn gyhoeddus i rannu mewnwelediadau ac eirioli am newid.

Adnoddau
Darllen pellach:
Co-production: what it is and how to do it – SCIE: Mae'r Social Care Institute for Excellence wedi datblygu canllaw defnyddiol sy'n arwain chi drwy egwyddorion cydgynhyrchu a sut i'w wneud!
Beth yw cyd-gynhyrchu? – Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru: Bydd ymuno â'r rhwydwaith hwn yn parhau â'ch datblygiad proffesiynol gyda'r amrywiaeth ragorol o becynnau hyfforddi, adnoddau ac astudiaethau achos ymarferol.
Ymarfer sy'n Wybodus Ynghylch Trawma
https://traumaframeworkcymru.com/wp-content/uploads/2022/07/Trauma-Informed-Wales-Framework.pdf
Further reading by Type of Lived experience
Mae'r erthyglau canlynol yn rhoi mewnwelediad pellach i gefnogi unigolion gyda mathau penodol o brofiad.