

Unigolion
Darganfyddwch sut gall eich profiad bywyd helpu pobl yn eich cymuned. Dysgwch sgiliau gwerthfawr a darganfod llwybr gyrfa newydd.
Mae St Giles Trust yn helpu pobl sydd mewn angen. Maent yn credu y gall pobl sydd wedi goresgyn heriau ym mywydau eu hunain gyflawni newid positif i eraill.
Mae llawer o sefydliadau yn awyddus i wella'u gwasanaethau i'w defnyddwyr. Maent yn gwneud hyn wrth gynnig rolau gwirfoddol a gyda thâl i bobl sydd â phrofiad bywyd.
Mae mwy a mwy o rolau a chyfleoedd profiad bywyd arbenigol yn ymddangos.
Mae'r rolau yma yn cwmpasu sawl maes, gan gynnwys:
– Arweinyddiaeth
Profiad arbenigol
– Arbenigwr pwnc
– Ymddiriedolwr a llywodraethu

Manteision Rolau Cyfoed a Phrofiad Bywyd
Gallech chi gynnig cymorth unigryw i eraill gyda:
Empathi a dealltwriaeth: Mae eich profiad yn golygu gallech chi gysylltu gyda phobl ar lefel emosiynol
Profiad bywyd go iawn: Wedi byw’r profiadau yma eich hunain, rydych chi’n deall yr heriau a’r rhwystrau sydd yn wynebu defnyddwyr gwasanaeth
Rhoi gobaith: Bydd rhannu eich stori chi o oresgyn brwydrau tebyg yn rhoi gobaith i eraill ar siwrne eu hunain
Meithrin hyder: Mae bod â phrofiadau tebyg yn helpu chi i feithrin hyder defnyddwyr gwasanaeth gall fod yn anoddach eu cyrraedd

Thinking of getting involved?
Efallai bydd cychwyn eich siwrne i rôl profiad bywyd a chyfoed yn teimlo’n straen neu’n codi ofn, yn enwedig os nad ydych chi wedi gweithio ers sbel.
Efallai nad oes gennych chi lawer o brofiad, neu’n diffyg hyder. Gall gwirfoddoli fod yn gam cyntaf da i chi.
Gwirfoddoli yw pan rydych chi’n rhoi’ch amser a’ch sgiliau i helpu eraill heb dderbyn cyflog.
Gall eich cefnogi chi i:
- Ddysgu sgiliau newydd
- Magu hyder
- Cyfarfod pobl newydd
- Cael mynediad i hyfforddiant a chymorth
- Ennill profiad gwaith gwerthfawr mewn gosodiad proffesiynol

Derbyn iawndal am eich amser
Os ydych chi’n gwirfoddoli eich amser i helpu eraill, dylech chi gael eich gwerthfawrogi am eich cyfraniad. Ni ddylech chi fod dan anfantais ariannol am ddewis gwirfoddoli. Mae llawer o sefydliadau yn cynnig iawndal am eich amser a’ch ymdrech.
What you could get:
– Financial support which covers travelling costs and lunch vouchers.
- Arweiniad clir am wirfoddoli pan rydych chi’n derbyn budd-daliadau. Rydych chi angen sicrhau na fydd hyn yn cael effaith ar eich taliadau
Am arweiniad clir ar wirfoddoli a hawlio budd-daliadau ymwelwch â GOV.UK.
Am arweiniad clir ar wirfoddoli a hawlio budd-daliadau ymwelwch â GOV.UK. Manylion pellach am hyn, a gwybodaeth am wiriadau a datgeliadau DBS, yn yr adran adnoddau isod.

Mae chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yn debyg i chwilio am swyddi gyda chyflog.
Chwilio gwefannau:
Mae llawer o sefydliadau yn hysbysebu ar Charity Job Finder, Charity Job, ac ar wefannau eu hunain.
Canolbwyntio eich chwiliad:
Oes gennych chi faes penodol sydd yn eich diddori? Fel llwyrddibyniaeth, digartrefedd, iechyd meddwl, neu’r system cyfiawnder troseddol? Chwiliwch Google am elusennau lleol sydd yn cynnig y gwasanaethau hyn a gweld os ydynt yn recriwtio gwirfoddolwyr.
Ymwelwch â gwefan TSSW:
Cyngor a gwybodaeth gwirfoddoli gan rwydwaith o sefydliadau ar Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Eu nod yw codi proffil gwirfoddoli a rhoi gwell profiad i chi. Dewch o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli ar eu gwefan Gwifoddoli Cymru.
Gwirfoddoli yn Lloegr:
Ymwelwch â gwefannau National Association for Voluntary and Community Action a National Council for Voluntary Organisations (NCVO) am wybodaeth, cyngor, a chyfleoedd gwirfoddoli.

Rôl Darparu Gwasanaeth ar y Rheng Flaen
Gweithio’n uniongyrchol â phobl, grwpiau, neu gymunedau. Defnyddio profiadau personol i gynnig arweiniad a chymorth ymarferol.
Esiampl rolau
- Gweithiwr Cymorth Cyfoed
- Gwirfoddolwr Cyfoed
- Gweithiwr Cymorth Cymunedol
- Gweithiwr Adfer Cyfoed
- Cynorthwyydd Adfer Profiad Bywyd
- Mentor /Cynghorydd Cymheiriaid
- Hyfforddwr Lles
- Hyfforddwr/Gweithiwr Profiad Bywyd
- Hwylusydd Profiad Bywyd
Gall tasgau gynnwys: Rhannu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Helpu i lywio gwasanaethau ac adnoddau cymunedol. Cefnogi gyda thasgau dyddiol. Cymorth perthynol. Bod yn fentor neu’n fodel rôl. Ymgysylltiad cymunedol.

Rôl Profiad Bywyd/Cymorth Cyfoed Arbenigol
Defnyddio profiad bywyd i gynnig cymorth arbenigol wedi’i deilwra yn ôl anghenion y gwasanaeth a’r defnyddwyr.
Esiampl rolau
- Gweithiwr Cymorth Cyfoed Ieuenctid
- Gweithiwr Achos Plant a Theuluoedd
- Mentor Mewn Ysgolion
- Gweithiwr Ecsploetiaeth a Gangiau
- Gweithiwr Cyfoed Cyffuriau ac Alcohol
Gall tasgau gynnwys: Cynnig mentora ac arweiniad wedi'i deilwro i sefyllfaoedd neu anghenion. Darparu cymorth ar deithiau adferiad. Hwyluso ymgysylltiad a chysylltiad cymunedol. Helpu gyda lles cymdeithasol ac emosiynol. Cynllunio a darparu ymyriadau arbenigol.

Senior Rôl Profiad Bywyd/Cymorth Cyfoed Arbenigol
Defnyddio eu profiad bywyd i reoli a darparu goruchwyliaeth, mentora a hyfforddiant i'r tîm.
Esiampl rolau:
- Uwch Weithiwr/Cydlynydd Profiad Bywyd
- Goruchwyliwr Cymorth Cyfoed
- Cynghorydd/Arweinydd Profiad Bywyd
Gall tasgau gynnwys: Anwytho a hyfforddi staff. Mynychu cyfarfodydd allanol. Goruchwylio a rheoli achosion. Datblygu adnoddau. Gwreiddio polisïau ac arferion.

Rôl Arweinyddiaeth Profiad Bywyd
Helpu i siapio a gwella gwasanaethau, strategaethau, a datblygu'r gweithlu. Defnyddio'u mewnwelediadau unigryw ar lefel strategol.
Rolau enghreifftiol:
- Rheolwr Prosiect Profiad Bywyd
- Ymgynghorydd Profiad Bywyd
- Cyfarwyddwr Profiad Bywyd
Gall tasgau gynnwys: Datblygu, rheoli a chefnogi'r gweithlu. Sicrhau bod gwasanaethau yn cyrraedd safonau a rheolau. Cydlynu a datblygu gwasanaethau. Cynghori ar welliannau i wasanaethau. Datblygu strategaethau a phrosesau.

Rôl Eiriolwr a Chynrychiolydd Profiadau Bywyd
Mwyhau a chynrychioli llais defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau. Sicrhau bod profiadau bywyd wrth galon gwneud penderfyniadau a datblygu gwasanaethau.
Rolau enghreifftiol:
- Eiriolwr Cymunedol
- Cynrychiolydd Defnyddwyr Gwasanaeth
- Llysgennad Profiad Bywyd
Gall tasgau gynnwys: Hwyluso cyfarfodydd a grwpiau ffocws i gasglu adborth. Sicrhau bod llais y defnyddwyr yn cael ei glywed wrth gynllunio a gwerthuso gwasanaethau. Siarad yn gyhoeddus i rannu mewnwelediadau ac eirioli am newid.

Yr hyn dywedai eraill am eu taith gwirfoddoli

"Mae gallu defnyddio fy mhrofiad bywyd wedi cael effaith enfawr, nid yn unig arnaf i, ond y bobl rwy'n cefnogi hefyd. Mae cael cefnogaeth gan rywun sydd wedi profi'r un peth yn bwysig iddynt gan fy mod i a'm mhrofiadau yn dangos bod yna ffordd allan.".”
Jane, Gweithiwr Cymorth Cyfoed
“"Rwyf wedi cael rhai canlyniadau anhygoel gyda chleientiaid. Rwyf wedi helpu pobl i ddod oddi ar gyffuriau ac wedi rhoi'r gofod iddynt i fod yn agored heb ofn a beirniadaeth. Rwy'n rhoi'r gefnogaeth a'r ddealltwriaeth i'm nghleientiaid na all pobl sydd heb fyw'r profiad yma, gan nad ydynt yn deall yn iawn."“
Gareth, Gweithiwr Achos Ymyrraeth - Darllen mwy am stori Gareth

