Darpariaeth Gwasanaeth

Manteision Rolau Cyfoed a Phrofiad Bywyd

Pethau i'w Hystyried

Rolau Cyffredin Profiad Bywyd


Rôl Darparu Gwasanaeth ar y Rheng Flaen

Gweithio’n uniongyrchol â phobl, grwpiau, neu gymunedau. Defnyddio profiadau personol i gynnig arweiniad a chymorth ymarferol.

Esiampl rolau
- Gweithiwr Cymorth Cyfoed
- Gwirfoddolwr Cyfoed
- Gweithiwr Cymorth Cymunedol
- Gweithiwr Adfer Cyfoed
- Cynorthwyydd Adfer Profiad Bywyd
- Mentor /Cynghorydd Cymheiriaid
- Hyfforddwr Lles
- Hyfforddwr/Gweithiwr Profiad Bywyd
- Hwylusydd Profiad Bywyd

Gall tasgau gynnwys: Rhannu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Helpu i lywio gwasanaethau ac adnoddau cymunedol. Cefnogi gyda thasgau dyddiol. Cymorth perthynol. Bod yn fentor neu’n fodel rôl. Ymgysylltiad cymunedol.


Rôl Profiad Bywyd/Cymorth Cyfoed Arbenigol

Defnyddio profiad bywyd i gynnig cymorth arbenigol wedi’i deilwra yn ôl anghenion y gwasanaeth a’r defnyddwyr.

Esiampl rolau
- Gweithiwr Cymorth Cyfoed Ieuenctid
- Gweithiwr Achos Plant a Theuluoedd
- Mentor Mewn Ysgolion
- Gweithiwr Ecsploetiaeth a Gangiau
- Gweithiwr Cyfoed Cyffuriau ac Alcohol

Gall tasgau gynnwys: Rhoi cyngor a chymorth yn ôl anghenion y person. Cefnogi eraill ar eu hadferiad. Cynorthwyo gwasanaethau i gysylltu a gweithio gyda’r gymuned. Helpu gyda lles cymdeithasol ac emosiynol. Cynllunio a darparu rhaglenni cymorth.


Senior Rôl Profiad Bywyd/Cymorth Cyfoed Arbenigol

Defnyddio eu profiad bywyd i reoli a darparu goruchwyliaeth, mentora a hyfforddiant i'r tîm. 

Esiampl rolau:
- Uwch Weithiwr/Cydlynydd Profiad Bywyd
- Goruchwyliwr Cymorth Cyfoed
- Cynghorydd/Arweinydd Profiad Bywyd

Gall tasgau gynnwys: Anwytho a hyfforddi staff. Mynychu cyfarfodydd allanol. Goruchwylio a rheoli achosion. Datblygu adnoddau. Gwreiddio polisïau ac arferion.


Rôl Arweinyddiaeth Profiad Bywyd

Helpu i siapio a gwella gwasanaethau, strategaethau, a datblygu'r gweithlu. Defnyddio'u mewnwelediadau unigryw ar lefel strategol.

Rolau enghreifftiol:
- Rheolwr Prosiect Profiad Bywyd
- Ymgynghorydd Profiad Bywyd 
- Cyfarwyddwr Profiad Bywyd 

Gall tasgau gynnwys: Datblygu, rheoli a chefnogi'r gweithlu. Sicrhau bod gwasanaethau yn cyrraedd safonau a rheolau. Cydlynu a datblygu gwasanaethau. Cynghori ar welliannau i wasanaethau. Datblygu strategaethau a phrosesau.

Rôl Eiriolwr a Chynrychiolydd Profiadau Bywyd

Mwyhau a chynrychioli llais defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau. Sicrhau bod profiadau bywyd wrth galon gwneud penderfyniadau a datblygu gwasanaethau.

Esiampl rolau
- Eiriolwr Cymunedol 
- Cynrychiolydd Defnyddwyr Gwasanaeth
- Llysgennad Profiad Bywyd

Gall tasgau gynnwys: Hwyluso cyfarfodydd a grwpiau ffocws i gasglu adborth. Sicrhau bod llais y defnyddwyr yn cael ei glywed wrth gynllunio a gwerthuso gwasanaethau. Siarad yn gyhoeddus i rannu mewnwelediadau ac eirioli am newid.

Adnoddau

Ymarfer sy'n Wybodus Ynghylch Trawma

Recruiting people with Lived Experience

Supporting and Developing People with Lived Experiencecontent/uploads/2025/03/Induction-Top-Tips.pdf

Enghraifft o Ddisgrifiad Swydd – Ymgynghorydd Cymheiriaid (Profiad Bywyd)

Enghraifft o Ddisgrifiad Swydd – Gweithiwr Achos

Enghraifft o Ddisgrifiad Swydd – Gwirfoddolwr

Example Induction Templatep

Example 121 Check In Template

cy
Scroll to Top
Skip to content