

Cynllunio Gwasanaeth
Mae Profiad Bywyd o fewn Cynllunio ac Arloesi Gwasanaeth yn golygu cynnwys defnyddwyr eich gwasanaeth i gyd-gynhyrchu.
Defnyddir eu barn yn y camau ymchwil, cynllunio, darparu a datblygu gwasanaethau newydd.
Mae cyd-gynhyrchu llawn yn cynnwys defnyddwyr wrth gynllunio a darparu, ond nid yw'n bosib bob tro. Yn lle hynny, mae nifer o sefydliadau yn defnyddio dull cyd-gynllunio, gan ganolbwyntio ar gynllunio gwasanaethau yn unig.
Gellir defnyddio cyd-gynllunio i:
- Mesur effaith gwasanaeth a sut gellir ei wella
– Casglu mewnwelediadau. Dod i ddeall yr heriau neu'r materion sydd yn cael effaith ar ddefnyddwyr eich gwasanaeth
– Nodi anghenion defnyddwyr gwasanaeth a defnyddio'r rhain i lunio eich penderfyniadau a'ch cynlluniau
– Datblygu gwasanaethau newydd.

Manteision Defnyddio Cyd-gynllunio
Gall defnyddio technegau cyd-gynllunio arwain at nifer o fanteision, gan gynnwys:
– Rhoi llais i ddefnyddwyr gwasanaeth wrth lunio gwasanaethau
– Meithrin hyder defnyddwyr gwasanaeth ynoch chi wrth ymateb i'w hadborth
– Gwerthfawrogi mewnwelediadau a phrofiadau defnyddwyr gwasanaeth
– Cynllunio gwasanaethau yn seiliedig ar wir anghenion,sydd yn arwain at ganlyniadau gwell

Enghreifftiau Ymarferol o Gyd-gynllunio
Dyma rai ffyrdd ymarferol i weithredu cyd-gynllunio:
– Ymchwil Cyfoed: Hyfforddi defnyddwyr gwasanaeth i gasglu gwybodaeth, dadansoddi data, cynnal cyfweliadau, a chreu arolygon
– Fforymau Defnyddwyr: Trefnu trafodaethau gyda grwpiau amrywiol o ddefnyddwyr gwasanaeth i gasglu
– Rolau Profiad Bywyd: Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn eich timau o'r dechrau i'r diwedd wrth greu rolau iddynt

Pethau i'w Hystyried Wrth Gyd-gynllunio
Mae manteision mawr i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, ond mae yna heriau dylid eu hystyried hefyd.
– Amser ychwanegol sydd ei angen i hwyluso ymgynghoriad .
– Adnabod a chael gwared ar unrhyw rwystrau i gyfranogiad .
– Rheoli lefelau ymgysylltu parhaus .
– Recriwtio aelodau gweithgor .

Arferion recriwtio cynhwysol
Wrth ddod â phobl i mewn i dîm, mae'n bwysig diffinio rolau a chyfranogiad yn glir.
Ystyriwch unrhyw ofynion ychwanegol sydd ei angen arnynt. Bydd hyn yn helpu i greu amgylchedd cynhwysol sydd yn gwerthfawrogi pawb.



Byddwch yn glir am gyfranogiad
Mae angen i ddefnyddwyr gwasanaeth deimlo fel y gallant gyfrannu a'u bod yn cael eu trin yn gyfartal.
Mae angen i chi fod yn glir o'r cychwyn cyntaf am lefel eu cyfranogiad, pryd a pham fod hyn yn digwydd.
Mae hyn yn helpu i greu diwylliant o barch ac ymddiriedaeth ac yn helpu i ddatblygu amgylchedd cydweithredol.

Talu am gyfraniadau
Ni ddylai gwirfoddolwr fod ar eu colled os ydynt yn rhoi amser i helpu eraill. Dylid eu digolledu am eu hamser a'u hymdrech.
Mae hyn yn cael ei nodi fel arfer da sydd yn cydnabod gwerth yr hyn mae pobl yn ei gynnig.Ble bo modd, dylid cydnabod cyfraniadau wrth dalu costau teithio neu roi taleb bwyd.
Sicrhewch gyntaf na fydd eich cyfraniad yn cael effaith negyddol ar y rhai sydd yn derbyn budd-daliadau.



Darparu hyfforddiant a chymorth
Helpwch unigolion gyda phrofiad bywyd i lwyddo yn eu rôl. Cynigwch hyfforddiant a chymorth ychwanegol. Gall hyn gynnwys cyflwyniad i'r sefydliad, ei ddiwylliant, gwerthoedd a'i nodau.
Nodwch yn glir lefel ymrwymiad pob person sydd yn cymryd rhan yn y prosiect, beth yw'r pwrpas a'r nod, a beth a ddisgwylir ganddynt.
Creu pecyn hyfforddi sydd yn dysgu sgiliau pwysig. Pethau fel cyfrannu mewn cyfarfodydd, sgiliau ymchwil, gwerthuso, digidol, ac arferion gwaith sefydliadol.

Cefnogi grwpiau bregus
Creu amgylchedd cefnogol wrth ddefnyddio arferion sydd yn seiliedig ar drawma.
Cydnabod effeithiau trawma'r gorffennol i greu amgylchedd cefnogol. Mae hyn yn helpu i osgoi gorfod mynd trwy'r trawma eto ac yn ystyried yr effaith emosiynol ar lesiant.
Sicrhewch fod adnoddau a phrosesau addas wedi'u gosod i alluogi cyfraniad effeithiol.


Adnoddau
Darllen Pellach:
Beth yw Cyd-gynllunio? - Y Tu Hwnt i Nodiadau Gludiog: Mae Kelly Ann McKercher wedi creu'r trosolwg yma sydd yn hawdd i'w ddilyn yn egluro beth yw cyd-gynhyrchu a chyd-gynllunio.
Rhannu egwyddorion cyd-gynllunio: Mae Emma Blomkamp wedi creu trosolwg defnyddiol o egwyddorion cyd-gynllunio effeithiol.
Pecyn cymorth dylanwad a chyfranogiad | Mind: Gyda thempledi defnyddiol a thempledi ymarferol, gellir addasu pecyn cymorth Mind i wasanaethau y tu allan i les meddyliol, ac mae’n cynnwys cyngor ac offer ymarferol.