

Creu Cyfleoedd Profiad Bywyd yn Eich Sefydliad
Gall datblygu Model Profiad Bywyd helpu i wella gwasanaethau wrth gasglu mewnwelediadau'r rhai sydd yn eu defnyddio. Mae angen ymrwymiad sefydliad cyfan i ddatblygu cyfleoedd i bobl sydd â phrofiad bywyd.
Dylai’r model yma fuddio eich sefydliad, y bobl sydd â phrofiad bywyd, a defnyddwyr gwasanaeth y dyfodol.
Dylech chi ddatblygu strategaeth glir sydd yn rhoi:
– Diffiniad clir o brofiad bywyd sydd yn benodol i'ch sefydliad
– Datganiad o Fwriad sydd yn esbonio sut mae profiad bywyd yn cyd-fynd â meysydd fel gwneud penderfyniadau, datblygu staff, a darpariaeth
– Cefnogaeth arweinyddiaeth fel y gallech chi greu system gref sydd yn gwneud i bawb deimlo’n ddiogel ac yn rhan o bethau, sydd hefyd yn herio rhagdybiaethau

Defnyddio Model Profiad Bywyd i Wella Gwasanaethau Toolkit
Defnyddiwch y Model Profiad Bywyd yn eich sefydliad drwy gynllunio gwasanaeth, gwerthuso a darpariaeth.
Mae dulliau yn cynnwys mentora cyfoed, cynnwys defnyddwyr gwasanaeth, a chyd-gynllunio.
Rhannwch syniadau newydd, heriwch ragdybiaethau, a chreu gwasanaethau sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
Sgroliwch lawr i weld rhai o’r pethau dylid eu hystyried wrth ddatblygu’r model yma.

Creu Amgylchedd sydd yn Seicolegol Wybodus
Gweithle sydd yn deall ac yn cefnogi anghenion meddyliol ac emosiynol ei staff.
Creu gofod diogel ble mae pobl yn teimlo gwerthfawrogiad a chefnogaeth heb neb yn barnu. Gall pobl rannu syniadau ac awgrymiadau'n agored, a chael gwell boddhad yn eu swydd. Mae hyn yn arbennig o gynorthwyol i rai sydd â thrawma neu gyflyrau niwroamrywiol.



Creu Diwylliant Cynhwysol
Creu diwylliant sydd yn gwerthfawrogi profiad bywyd. Mae'n ei drin yn gyfartal â rolau eraill, ac yn cydnabod sgiliau pobl.
Mae diwylliant cynhwysol yn herio rhagfarnau a stereoteipiau anymwybodol. Mae'n sicrhau y gall pawb gyrraedd eu llawn botensial. Mae hefyd yn cydnabod y rhwystrau unigryw mae'r rhai sydd â phrofiad bywyd yn ei wynebu.

Cefnogi Datblygiad y Gweithlu
Gall trawsnewid o ddefnyddiwr i ddarparwr gwasanaeth fod yn heriol, yn enwedig i rai sydd â phrofiadau cymhleth o drawma.
Efallai nad oes ganddynt lawer o brofiad gwaith a bod angen mwy o oruchwylio, cymorth a hyfforddiant arnynt i gyrraedd eu potensial.
Bydd rheolwr hefyd angen hyfforddiant fel y gallant gynnig y cymorth cywir.



Ymarfer ar Sail Trawma
Mae gan nifer o bobl sydd â phrofiad bywyd drawma sydd yn cael effaith ar eu bywydau personol a phroffesiynol.
Bydd dull wedi'i selio ar drawma yn helpu i godi ymwybyddiaeth o sbardunau posib ac effaith trawma. Y bwriad yw atal gweithwyr a chleientiaid rhag mynd drwy drawma eto.
Mae'n canolbwyntio ar ddeall sut mae trawma yn gallu cael effaith negyddol ar bobl ac adnabod ac ymateb i unrhyw rwystrau i'w rôl.
Darganfod Sut

Adnoddau
Darllen pellach:
Mae'r erthyglau canlynol yn rhoi mewnwelediad pellach i gefnogi unigolion gyda mathau penodol o brofiad.
Profiad Bywyd o Ddigartrefedd: Cefnogi cyflogaeth a gwirfoddoli i bobl sydd â phrofiad bywyd
Profiad Bywyd o Gamddefnyddio Sylweddau Rhan 1: Cyflwyno adferiad, cefnogaeth gan gymheiriaid a mentrau profiad bywyd
Profiad Bywyd o'r System Cyfiawnder Troseddol: Cyngor, Gwybodaeth ac Arweiniad ar Gofnodion Troseddol
Profiad Bywyd o Iechyd Meddwl: Gwirfoddoli a chyfranogi